Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl
17 Mai 2022
12.00 – 13.00
Rhithwir - Teams
Yn bresennol:
|
1. Croeso a chyflwyniadau
Cyflwynodd Ken Skates (KS) y pwnc trafod, sef iechyd meddwl yn y gweithle, drwy ddweud bod angen i bobl deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi yn eu gweithleoedd. Roedd Contract Economaidd Llywodraeth Cymru yn rhoi iechyd meddwl wrth wraidd strategaeth economaidd ac yn darparu llwyfan i adeiladu arno. Cyflwynodd KS y rhai a fyddai’n cyflwyno adroddiadau
2. Gwyneth Sweatman, Pennaeth y Cyfryngau a Chyfathrebu, Ffederasiwn y Busnesau Bach
3. Rachel Suff, Uwch-gynghorydd Polisi, Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)
4. Linsey Imms, Swyddog Cefnogi a Dysgu'r Undeb, TUC Cymru
5. Trafodaeth
Tynnodd James Radcliffe (Platfform) sylw at gyflogwyr sy’n gofyn i bobl ddod i’r gwaith pan mae ganddynt Covid neu os ydynt yn sâl. Dyma gyfle euraid i ddiwygio absenoldeb oherwydd salwch, gan fod ynysu wedi dod i ben. Sut y gall y gweithle ddod yn lle seicolegol ddiogel i bobl fod? Sut y gallwn ni gryfhau'r negeseuon hyn i gyflogwyr?
Awgrymodd KS ysgrifennu at Vaughan Gething ac, o bosibl, ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol hefyd.
Tynnodd June Jones (Amser i Newid Cymru) sylw at addewid cyflogwr Amser i Newid Cymru fel cam cyntaf tuag at annog sefydliadau i gymryd y cam cyntaf. Mae llawer o staff yn parhau i deimlo'n anghyfforddus o ran bod yn agored gyda’u rheolwyr
Roedd Richard Jones (Mental Health Matters Wales), wedi bod yn darparu cyrsiau hyfforddi iechyd meddwl am ddim yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Ychydig iawn o’r sector preifat a fanteisiodd ar yr hyfforddiant. Mae angen i ystod ehangach o sefydliadau wthio'r cynnig a'r cyfle hwn, e.e. drwy’r TUC, Sefydliad Siartredig Personel a Datblygu
KS Dylai Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl fod ar waith o ran cael cyllid gan Lywodraeth Cymru
Liz Williams (RNIB) mae cyflogaeth yn ffactor sydd wedi'i ddiogelu ar gyfer iechyd meddwl. Gall pobl ddall neu rannol ddall gael eu heithrio o gyfleoedd gwaith neu gyfleoedd datblygu ac mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.
Gwyneth Sweatman (Ffederasiwn y Busnesau Bach), pwynt pwysig, mae canolfan wedi'i lansio ar wefan Ffederasiwn y Busnesau Bach i annog busnesau i ystyried pa gymorth sydd ei angen.
David Lee (Fforwm Iechyd Meddwl a Lles Cymru) A oes unrhyw ystadegau neu oleuni o ran niwroamrywiaeth? Mae angen cydadnabod iechyd meddwl a niwroamrywiaeth.
Linsey Imms (TUC Cymru) gwnaed rhywfaint o waith ar niwroamrywiaeth yn y gweithle, sy'n adlewyrchu profiadau David (https://www.tuc.org.uk/autism-awareness-workplace). Mae argymhellion yn yr adroddiad ar gyfer sut y gellir cefnogi pobl yn well.
Emma Gooding (Samariaid Cymru) Sut allwn ni fel sector weithio i fynd i'r afael ag iechyd meddwl yn y gweithle drwy lens anghydraddoldeb? Mae’r rhai sydd yn y proffesiynau sydd â’r lefel isaf o sgiliau, sy'n wynebu colli swyddi ac sydd mewn cyflogaeth ansicr mewn mwy o berygl. Sut mae cyrraedd y rheiny ac olrhain beth sy'n digwydd?
Peter Williams (Fforwm Iechyd Meddwl a Lles Cymru) Maes lle mae gan ofalwyr gyfyng gyngor, os ydynt mewn gwaith, mae angen yr hyblygrwydd arnynt i ofalu am aelod o'u teulu. Rolau ychwanegol yn ystod y pandemig gan eu bod wedi gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith gan nad oes gofal proffesiynol ar gael. Pa gymorth a chefnogaeth fyddai ar gael?
Tynnodd Linsey Imms (TUC Cymru) sylw at y ffaith bod ganddynt arolwg o brofiadau gofalwyr o gydbwyso cyfrifoldebau gwaith a gofal (https://www.tuc.org.uk/news/working-and-looking-after-others-new-survey)
6. Y camau nesaf
Awgrymodd KS ei fod yn ysgrifennu at Vaughan Gething ar ran y grŵp, yn crynhoi natur y drafodaeth.
Hefyd mae'n werth meddwl am yr hyn yr ydym am ei gael o'r strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol ac o bosib gwahodd gwahanol Weinidogion i fod yn bresennol er mwyn gweld lle mae gorgyffwrdd rhwng eu gwaith ag iechyd meddwl. Er enghraifft, gellid gwahodd Hanah Blythyn AS i siarad am y Bil Partneriaeth Gymdeithasol ac efallai Jane Hutt o ran cyfiawnder cymdeithasol.